Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 76r

Brut y Brenhinoedd

76r

yn|y ffalst drech honno y gyflenwi damvnet y gnawt
ar eigyr. a dywedut idi pan yw yn lledrat y dothoed
y ymwelet a hi. ac na allei ef yr dim bod heb dyuot.
A chredu a oruc hitheu hynny. Ar nos honno y cavas
eigyr beichiogi; ac o|r beichiogi hwnnw y kat arthur.
A gwedy gwibot o|r llu nat yttoed y brenhyn gyt ac
wynt; ymlat a orugant ar gaer y llidiawc heb gymryt
kysstlwn ganthunt. Ac yna y doeth gwrleis allan a|y
wyr y·gyt ac ef; ac ymlat ac wynt yn wychyr creulon
a llad llawer o bop tu. Ac yna y llas gwrleis. a gwas+
garu y wyr ar ffo ar ny las onadunt. Ac yn|y lle y
menegit y eigyr ry lad gwrleis y harglwid; a chaffael
y castell. Ac yna chwerthin a oruc yntev a dywedut
wrthi; arglwydes hep ef ny|m llass i ettwa. a rodi cus+
san idi. Ac am na wydeynt dim y wrthyfi; y maent
yn tybieit vy llad. Ac arglwides heb ef goreu yw
yny bo kyntaf yr elom yn ewyllys y brenhyn; canys
collassham an gwyr. ac an kedernit. ac na allwn y
ymrysson ac ef. ac os y drugared a geisswn; diheu yw
gennyf na necky ef nyni. Arglwyd heb hi val y
mynech ti gwna. Ac yno y gweleynt y llu yn dy+
vot y tu ac attadunt. Ac yno y|daeth vthyr a|y deu
gedymdeith y·gyt ac ef hyt ar y llu yn ev drech ev
hvn. ac agoryadeu y castell ganthunt. A drwc uu
ganthaw o beth llat gwrleis; a da o beth arall. Ac yna
y kymyrth vthyr eigyr yn wreic briawt idaw. ac y
bu idi o·honaw mab a merch. nyt amgen no·gyt
arthur ac anna y chwaer. Ac yna y kleuychws vth+
yr o orthrwm heint. ac y bu yn glaf yn hir. yny