Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 70v

Brut y Brenhinoedd

70v

hwnnw hengist yn sseuyll y|dywat ha wyrda hep
ef; pei eruynnei pawb ohonawch rydhau hengist.
Mi a|y lladwn vy hvn ef. Mal y gwnaeth Samuel bro+
phwit pan welas agas brenhin amalech yng|karch+
ar. ef a beris y drylliaw yn van dryllieu. a dywedut
wrthaw val hynn. val y gwneithosti y meibion heb
ev mamev; minneu a wnaf dy vam ditheu hep vab.
Ac yna y kymyrth eidol iarll caer loew hengist a
mynet ac ef odieithyr y gaer y|ben brin a oed agos
yr dinas. Ac yno y|llas ac y clathpwyt. a gwneithur
cruc mawr ar y warthaf. val yd oed devawt yna
yn lle y cledit ssowdan. Ac odena yd aeth emreis
a|y lu hyt yng|kaer efrauc y geisiaw octa. Ac yna
o gynghor y oreugwyr y kymerassant cadwyn yn
llaw pob vn onadunt. a thamheit o|brid ym|phen
pob vn onadunt. a mynet velly yn ewyllys emreis.
A dywedut wrthaw val hynn. Arglwyd vrenhin heb
wynt gorchyuygedic yw an dwyweu ni. Ac ny phe+
drusswn ny; vod awch duw chwi yn gwledychu. yr
hwnn yssyd yn kymhell yr ssawl vonhedigion hyn
yn dy ewyllys di; yn yr agwed hon. A llyma ni·ni
arglwyd a chadwyn yn llaw pob vn o·honam. ac
yn gymunawl. A phar arglwyd an rwymaw os
mynne. Ac yna yd aeth emreis y gymryt y gyng+
hor amdanadunt. Ac yna y kyuodes eidal escop; a
dywedut val hyn. E|gobonite a doethant oc ev bod
ev hvnn; y erchi trugared. y bobyl yr israel. ac|wynt
a|y caussant. ac ny byd gwaeth an trugaret nynheu
no|r hwnn er ideon; Ac yna y rodet kyngkreir y octa