Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 65r

Brut y Brenhinoedd

65r

oed. O drueinion dagreuoed y llithyrir hitheu; ac o
arruthyr diaspat y llenwir yr ynys. Y karw dec geing
a lad honno; y pedwar onadunt a arwedant coronev
eur. E chwech ereill a ymchweilir yn gyrn buffleit.
y rei a gyffroant teir ynys brydein oc ev ysgymvn
ssein. Yna y ssychir llwyn danet; ac o dynyawl llef
gan ymdorri y|llefhaa. Dynessa kymre a|gwasc
kernyw wrth dy ystlys; a dywet y gaer wynt y|da+
ear a|th llwng. Symmvd eistetua y bugeil yr lle
y disgyn llongheu; ac ymlyneint yr aylodeu ereill
y penn. Canys y dyd a vryssia yn yr hwnn y dyball+
ant y rei dinessic anudonul. Gwynder y gwlan a ar+
gyweda; ac amrauaylder lliw y rei hynny. Gwae hi
yr anudonul genedyl; canys caer arderchawc a|digw+
yd o|e hachos. LLawenhau a wna y llongheu o|r veint
achwanec; ac vn o deu·peth a vyd. Draynawc gorth*+
thrwm o aualeu a adeilia honno o newyd; wrth arogleu
y rei hynny yd ehedant adar amrauaylion llwyneu.
Ford diruawr llyss a gyrch; ac o chwechant twr y|ke+
dernheir. Wrth hynny y kynghorvynha llundein; a|y
mvroed a achwanecka yn dri·dyblic. Temys a|y kyl*+
lchyna o bob|parth; a chwedleu y gweithredoed hyn+
ny a|gerdant vynheu. Cudiaw yndi a wna y dray+
nawc y aualeu; a gwneithur ford idaw a·dan y|dayar.
En yr amser hwnnw y dyweit y mein; ar mor y|ker+
dir y freinc arnaw a|gyuynghir o hir yspeit. Y am
y dwy lan id ymglywant y dynyon; a chedernyt
yr ynys a hwyheir. Yna y menegir dirgelwch y
moroed; a freinc rac ovyn a ergryna. Gwedy hyn+