Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 63v

Brut y Brenhinoedd

63v

y diwed hagen a ehetta ar oreuchelder. Hwnnw a
adnewydhaa eisteduaev y gwynvydedigion trwy yr
gwladoed; ac a lehaa y bugelid yn lleod gwedus.
Dwy gaer a wisc dwy vantell; a gwerynolion rody+
on a ryd yr gwerydon. Odyno y gobrin canmawl
yr holl kyuoethawc; ac y·rwng y gwynvydedigion
y kyffleheir. O hwnnw y kerda linx a dyllha pob peth;
yr hwnn a ymdewynnic yn gwymb y briawt genedil.
Drwy hwnnw y kyll normandi y dwy ynys; ac o|e
hen deilyngdawt yd yspeilir. Odyna yd ymchweilant
y kiwdawdwyr yr ynys; canys anyhvndeb yr ystron+
nyon a ymdengis. Er hen gwynn ar varch gwelw
yn diheu a|drossa avon perydon; ac a gwialen wen
a vessur melyn arnei. Cadwaladyr a eilw kynan;
ar alban a gymer yn|y gedymeithas. Ena y byd aer+
va o|r ystrawn genedloed; ac yna y llithrant yr a+
vonyd o waet. Ena y tyrr mynyded llydaw; ac o|r
teyrn wialen y coronheir y bryttannieit. Ena y
llenwyr kymre o lewenyd; a chedernyt kernyw a
irhaa. O henw brutus yd henwir yr ynys; ac enw
yr ystronnyon a balla. O gynan y kerda baed ymlad+
gar; yr hwnn a limhaa blaynev y danhet o vewn y
lwynev freinc. Ef a dyrcheif pob kedernyt mwiaf;
ac yr rei lleiaf a ryd amdiffyn. Hwnnw a ofnhaa
yr avia ar affrica; canys y ruthyr ef a estyn y eith+
avion yr yspayn. En nessaf y hwnnw y daw boch o
sserchawl gastell a baryf ariant idaw ac a chyrn evr;
yr hwnn a chwyth o|y ffroyneu y veint wybrev yny
dywyllhao yr holl ynys. Hedwch a vyd yn|y amser