Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 59v

Brut y Brenhinoedd

59v

aurhon dinas emrys yn erryri. Ac yna y|gwel+
ssant y lle cadarnhaf herwyd y|tybygeint wy; yn
holl kemry y adeiliat castell arnaw. A gwedy dwyn
sseiri mein a|dechreu gweith y gaer; kymeynt ac
a wneleynt y dyd. yn erbyn trannoeth y bore ny
bydei vn maen yn|y lle onadunt. A gwedy ev bot
velly yn llauuriaw yn over yn hir yspeit; ryuedwch
mawr oed gan bawb pa beth a|wnay hynny. A gwedy
nad oed neb a|y gwybpei; galw a|oruc Gorthern ar y
deudec prif veird; a govyn ydunt pa beth a wnay
yr gweith na ssauei. Ac yno yr aethant y gymryt
ev kynghor. A gwedy na wydiat neb onadunt pa
ryw attep a rodeint yr brenhyn; gorthrwm oed gan+
thunt hynny a chywilid. Ac yna y|dywat vn onad+
unt wrth y lleill; dechymygwn heb ef y peth ny allo
bot. ac erchi keisiaw hwnnw; a hwnnw ny cheffir
byth. ac y velly y bydwn diatneir nynheu; y wrth y
brenhyn. Ac y caussant yn ev kynghor dywedud.
pei keffit gwaet mab heb dat. a chymysgu y gwaet
hwnnw ar dwfyr ac ar calch; dywedut y ssauei yr
gweith. A dywedut yny geffit hynny; na sauei dim
o·honaw. A gwedy menegi hynny yr brenhyn. an+
von a oruc ar hyt kymre y geisiaw mab heb dat.
Ac anvon llythyreu pa le bynnac y keffit y kyfriw
na|s goludit heb y danvon attaw ef. A gwedy ro+
diaw pob lle onadunt hep gaffel dim. wynt a|do+
ethant hyt yng|kaer verdyn; Sef achaws y gelwyt
y|dref honno yn gaer vyrdyn; Am y sseiliaw yn gyn+
taf o myrd o|wyr. ac o|r achos hwnnw y gelwyt yn gaer