Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 59r

Brut y Brenhinoedd

59r

ym·warandaw ac wynt. A phan welas y bradwr twyl+
lwr ysgymvn amser idaw; ef a|dywat draweth hwr+
sexes. Ac yna y tynyassant ev kellyll ac y lladassant
trugein wyr a phedwar cant. y·rwng Jeirll a Bar+
rwnieit o ynys brydeyn. A dodi llaw a oruc hengist
ar y brenhyn a|y daly. Ac o|r a oed o dywyssauc yn
ynys brydeyn; ny dienghis yr vn hep lad yno die+
ithyr Eidiol iarll caer loew. A dienghys o nerth tros+
saul a gavas a·dan y draet. ac o|r vn trossaul hwnnw.
ef a|ladawt deng wyr a|thrugeint; ac a dienghys yn
iach ev gyuoeth e|hvn. Ac yna y perys eidal escop cla+
du corfforoed y tywyssogyon y|nghaer caradauc yn
ymyl manachloc ambri. ac ef a berys abat yno gyntaf.
Ac yna y duc hengist y|ar y|brenhyn caer llundein
a chaer efrawc. a chaer lyncoll. a chaer wynt. a holl
lloygyr a·dan y theruynev. ac a|y rannawd y·rwng
y saxsonieit. Ac yna y dodes pob vn onadunt ar|y|ran;
sex. nyd amgen. estsex. sswthsex. westsex. y doyn ar|gof
yr ysgymvn vrat ar lladua a wnathoedynt ac ev
kellyll ar deledogyon yr ynys. Ac yna y dillwnghwyt
Gorthern o garchar. ac y diholat ef o deruyneu llo+
egyr. Ac yna y ffoas ynteu hyt yng|kymre. A gwe+
dy y|dyuot y gymre; gorthrwm y kymyrth arnaw
y wrthlat oe* y vrenhiniaeth mor waradwydus a
hynny. A medyliaw a oruc adeiliat castell cadarn
rac y gyuarssanghu o|y elynnyon mor dybryd
ac y gwnaethessynt gynt. A gwedy rodiaw holl
teruyneu kymre onadunt; y geisiaw lle adas y
adeiliat yndaw; wynt a doethant lle gelwir yr