Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 58r

Brut y Brenhinoedd

58r

archadoed ydunt. namyn y gladu yn llundein
yn enrydedus. Ac y caussant yn ev kynghor canys
nad oed gwir deledawc a allei vod yn vrenhyn
ar ynys brydeyn yna; kymryt Gorthern yr eilwe+
ith yn vrenhyn arnadunt. a hynny drwy aruol+
leu kadarn. na chynhwysseu neb o ystrawn ge+
nedloed yr ynys. onyt drwy kytssynnedigaeth
pawb o|r tywyssogyon.
A gwedy caffel o Orthern llywodraeth y|dyrnas
yr eilweith. Anvon a oruc Ronwen hyt yn
germania ar hengist y|that y erchi idaw dyuot
y ymwelet a hi. a chyuartalrwid o|niver y·gyt ac
ef hyt yn ynys brydeyn. a menegi ry varw gwe+
rtheuyr. A gwedy gwybod onadunt hynny llawen
uu ganthunt. A chynullaw a oruc hengist try
chant mil o wyr aruauc y dyuot y·gyt ac ef hyt
yn ynys brydeyn. A gwedy klywet o|r bryttannyeit
ry dyuot niver kymeynt a hwnnw yr ynys. anvon
a orugant ar y brenhyn ac erchi ev gwrthlat o|r
ynys wynt. A gwedy gwybot o|r saxonyeit hynny;
anvon a orugant ar y brenhyn. ac ar y tywysso+
gyon y ervyneit ydunt; na chymereynt yn lle drwc
ev dyuot mor luossawc a hynny y ynys brydeyn.
A menegi na doethant wy yr volest y neb o|r bryt+
tannyeit yr ynys; namyn dyuot y ymwelet ac ev
kares gan y vrenhines. a thybiaw na buassei varw
Gwertheuyr vendigeit. a rac ev kyuarssanghu o·ho+
naw val y gwnathoed gynt; y doeth hynny o niver
y·gyd ac wynt. A chanys buassei varw gwertheuyr.