Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 56v

Brut y Brenhinoedd

56v

arnaw. a chwynaw a oruc wrth tywyssogion yr ynys
am hynny. A gwedy gwybot o bawp o|r tywyssogyon
hynny; hagyr uu ganthunt. Ac yn enwedic hagrach
oed gan y dri meib ef e|hun; a hanoed o wreic arall.
no·gyt gan neb amgen. henw y dri meib oed.
Kyndeyrn. a Gwertheuyr. a Phasgen. A phan oed
oet crist. dwy a|thrugeint a phedwar cant. y gwna+
eth leo pab ruuein duw pasc; ar duw ssul. A blwy+
dyn gwedy hynny y ganet sant freit. Ac yn yr
amser hwnnw y doeth Garmaun. a lupus trauscens.
nev o ieith kymraec. Bleid y|gedymdeith y·gyt ac
ef. y pregethu yr bryttannyeit. canys oedynt kys+
segredic o gristonogawl fyt. ac yr pan dathoet
paganieit yn ev plith. ef a doeth heresys a geu
bregeth pelagian ganthaw. canys gwenwyn y
geu bregethwr hwnnw. a lygrassei llawer o ffyd
ym|plith y bryttannyeit. A gwedy pregethu o Gar+
maun a bleid y gedymdeith yr bryttannyeit. yna
atnewydhau ev fyd a orugant. canys pob peth o|r
a|dywettynt ar ev tavodeu wynt a|e kedernheynt oc
ev peunydiawl wyrtheu. Ac anryuedodeu mawr a
wnay duw yrdunt. ar gweithredoed hynny; a draeth+
ws Gildas vap Caw yn eglur gwedy hynny. Ac yna
y doeth hengist a dywedut wrth Gorthern. tydi we+
ithyon yssyt vab y|miui. a minheu|yn dat yttitheu.
A iawn yw ytti bellach gwneithur vyng|kynghor
i; am bop peth. A minneu a|th kyghoraf ditheu yn
oreu ac y gwyppwyf ac y gallwyf. A llyna dy gyng+
hor di. rac dy gyuarssanghu o ystrawn genedloed.