Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 55v

Brut y Brenhinoedd

55v

A gwedy menegi yr ffichtieit ry gaffel o orthern ne+
rth o ystrawn genedloed; kyweiriaw a orugant ev
llu a dyuot yn|y erbyn. ac ymlat ac ef yn greulon
a llad llawer o boptu. ac eissiwis o|r diwet y|goruu yr
brenhyn. a hynny drwy nerth y|saxonieit. A gwedy
gwelet o|r brenhyn hynny. llawenhau a|oruc. a rody
yr saxonieit y tir a elwyt yn lyndesei gwedy hynny
y presswilaw yndaw. A gwedy caffel onadunt kyn+
nwys; wynt a anvonassant hyt yn germania yn
ol deu·naw llongheit o wyr aruawc yn nerth ydunt.
Ac yn yr ennyd hwnnw y doeth hors a hengist hyt
ar y brenhyn y geisiaw ganthaw a|e castell a|e dinas
mal y galleynt ymgadw yndunt rac ruthyr ev
gelynnyon. Ac yna y dywat y brenhyn na lauas+
sei ef hynny; hep canneat y bryttanyeit. a phei ys
gwnelei; y gwrthledyt ef o|r ynys. ac wynteu hevit.
A gwedy na|chafsant hynny. wynt a ervynnassant
cannyat y adeiliat caer onadunt ev hun. kyulet
a chroen ech. y geisiaw ev hamdiffin rac ev gelyn+
nyon. ac y rodes y brenhin hynny ydunt. Ac yna
yd aethant adref. ac y keisiassant croen ych mwiaf
a gafsant. ac a|y hollassant yn vn garrei veinaf ac
y gallassant. ac ystynnu honno yn oreu ac y gallas+
sant. ac wrth honno y gwnethpwyt dinas y garrei.
A honno a elwit yna ydwong chestyr. A gwedy gwne+
ithur y dinas y doeth y llongheu a|dywetpwyt uchot
yr ynys. a merch y hengist y·gyd ac wynt. Ronwen oed
y henw. a morwyn glotuawr o bryt oed hyt na wel+
ssit y chyffelyb. Ac yna yn ev kynghor y cawssant