Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 55r

Brut y Brenhinoedd

55r

noedynt. a pha le yd|aynt. a pheth oed ev haruaeth.
A gwedy dyuot y kennadeu attadunt. ac ymovyn
ac wynt val yd archadoed ydunt y|gan y|brenhin.
Wynt a vanagassant ev hanvot o saxonia. vn o
brenhinaetheu germania. A menegi bod yn reyt
ydunt pob seith mlyned dethol niueroed o|r ynys
honno y vynet y bresswiliaw y ynyssoed ereill. wrth
na allei yr ynys ev porthi rac ev hamlet. ac ev bod
wynt gwedy ry dethol yr blwydyn a|hanner kyn
no hynny. a horss. a hengyst. yn deu dywyssawc ar+
nadunt. ac ev ryuot yn amgylchynu moroed yr
blwydyn a hanner kyn no hynny heb gaffel lle y
disgynnu yndaw. ac yn ervynneit lle y gan brehin*
y bryttannyeit y presswylyaw yndaw. o bei teilwng 
ganthaw. Ac wynt a gadarnheynt ev bod; yn wyr ky+
wir ffytlon idaw. A gwedy menegi yr brenhyn hyn+
ny; anuon a oruc ef yn ev hol. A gwedy ev dyuot.
Amovyn a oruc y brenhyn ac wynt y bwy y kredeint
a menegi a orugant idaw pan yw y woden yn ev iei 
wynthwy. a govyn o|r brenhyn peth oed hynny. a mene+
gi o|r ieithydyon pan yw mercurius vn o|r geudwyweu.
ac ev bot yn enrededu pedweryd dyd o|r wythnos yn|y
enw ef. ac yn|y alw yn wodenysdai. A geu duw arall
a oed ydunt a elwit froen. ac o|e enw ef; y|galweint
froesday. A gwedy gwelet o|r brenhyn telediwrwyd
y gwyr; kymryt ev gwriogaeth a oruc. a dyuot
y·gyd hyt yn llundeyn. Sef oed hynny gwedy de+
chreu byt. pedeir mil. a|thry|chant. ac vn vlwydyn a
thrugeint. Sef oed oet crist yna.CCCCliiii.