Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 54r

Brut y Brenhinoedd

54r

ygyt ac ef. A gwedy megi* o gorthern y holl prosses. bod+
lavn oed gan y|brenhyn pob peth o|r a|wneley. A gwedy
ev bod velly talym o amser. gorthern a rynghaud bod
yr gweision yeueinc o|r alban. o barch ac enryded ac
esmwithdra a rodeon. A gwedy ev bot nosweith yn
yvet yn|y nevad yn hir gwedy mynet y brenhyn y
gysgu. ar gweission yeweinc yn digawn ev medwed.
y dywat gorthern wrthunt val hyn. vy arglwydy
gedymeithion gan ywch kanneat reyt yw ymmy
vynet y tu ar bychydic kyuoeth yssyt ymmy; y geis+
siaw o chaffwn dym o|r da odyno. val y gallwn
treulyaw wrth kedymeithion y bey digrif gennyf.
Paham heb yr wynt panyd tydi yssyt yn medu y
vrenhiniaeth y wneithur a vynnych ydaw. Nagef
ym kyffes heb ef. nyd oes ymmy o gyuoeth onyd er+
ging ac evas. a phe|bythei nyd oed ar y daear a enry+
dedwn ny yn gynt no chwychwi. A* yna kymryt
ev kanneat a|oruc gorthern a mynet y|gyssgu. Sef a
wnaethant wy rwng medawd a geirieu gorthern kyr+
chu ystauell y brenhyn a llad y|ben a|dyuot hyt yn
lle yd oed gorthern a bwrw yr pen yn|y arffet. hwde
heb yr wynt a|byd vrenhyn weithion os mynne. Ac
yna gwedy gwelet o orthern ry lad y|brenhyn wylau
a oruc a hynny o dwyll ac nyd o alar. am y brenhyn.
Ac yna y perys gorthern daly y gwyr a chlan ac ev car+
charu. rac dial arnaw ef yr alanas. A gwedy klywet
o kuhelyn archescop ry lad y brenhyn o|r ffichtieit drwy
vrat gorthern; ffo a oruc ynteu ar deu vab ereill hyt
yn llydaw ar emyr llydaw ev kevynderw. rac ovyn twyll.