Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 53v

Brut y Brenhinoedd

53v

iogaeth yr brenhyn. Ac y doeth paub yn vfyd. A gwedy
ev bod velly talym o amser yn hedwch tagnauedus.
medyliaw a oruc gorthern drwy y|hen vrad pa furyf
y galley ef e|hvn mynet yn vrenhyn. A gwedy me+
dyliaw o·honaw pob peth; dyvot a oruc ar y brenhyn
a menegi bod llynghes ar y mor. ac na wydyt ple
y dysgynynt. a bot yn orev kadarnhau kestyll yr
aruordiroed o wyr ac arveu a bwyd a diawd. ac
ym|phob lle ar hyt yr ynys. rac yn kyvarssangu
o ystrawn genedloed. A gwedy menegi hynny yr
brenhyn; erchi a oruc ydaw gwneithur val y gweley
vod yn yawn. am pob peth. Ac yna yd aeth gorthern
o gastell y gastell ar hyt yr ynys. a gossot gwyr tyg+
hedic idaw. o|r rei dewraf ar kadarnaf a geffyt ym
pob castell onadunt. a digawn o vwyt a diawt
hyt ym|phen y teyr blynet. a gwedy daruot ydaw
pob peth o hynny. dyvot a oruc ford yr alban a
dethol pedwar vgeyn wyr. o|r meibion deledockaf
ar rei bonhedickaf a goreu ev campeu o|r a hanoed
o genedyl y pychtieit y dyvot ygyt ac ef hyt ar y
brenhyn y gymryt gossymeyth ganthaw. a|y gan+
lyn wrth pen y varch. A gwedy ev dyuot at y bren+
hyn. llawen uu y|brenhyn wrthunt. A menegi a|oruc
gorthern val y buassei yn ystoriaw y kestill. Ac val
y dugassei hynny o veibion gwyrda o|r alban wrth pen
y varch. canys achos oed. os rywel a delei yr ynys; o+
deno y gnotthae dyuot. ac yno y|gellit ev hattal val
gwystlon dros ev tadeu. a diogel oed ganthaw na
thorrey ev tadeu byth ar brenhyn tra vei ev meibion