Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 52v

Brut y Brenhinoedd

52v

A dwyn ar gof idaw nad oed ar y daear ynys y bei yaw+
nach yr bryttanyeit keissiau kynnal y breynt a|y dy+
lehet nogit ynys brydeyn. ac nad oed ford yw chyn+
nal onyt drwy y nerth ef. A gwedy menegi o·honaw
yr brenhin gouyd y bryttanyeit ac ev anghyfnerth
gan ystraun genedloed. doluriaw ev poen a|wnaeth
yn vawr. A rodi ydunt dwy vil o varchogion yn
ganhorthwy ydunt a chustennyn y vrawt yn dywys+
sawc arnadunt. A gwedy caffel ev llongheu yn ba+
raud kychwin a|orugant y tu ac ynys brydeyn. ac
ym|phorth totneis y doethant y dir. A gwedy gwybot
o|r bryttanyeit trueyn gyuarssanghedic hynny. ym+
gynullaw attadunt a orugant. A gwedy klywet
o gwinwas a melwas hynny. ymbarattoi yn ev her+
byn a orugant. Ac ny bu bell yny ymgyuaruuant
ac wynt. ac ymlad yn wychyr llidiawc kreulon. a
llad llawer o bop tu. Ac o|r diwed Custennyn a|gavas
y uudygoliaeth. a llad ev gelynnyon yn olofrud.
A gwedy goruod onadunt ar ev gelynnyon wynt
hyt y|nghaer uudev a doethant.
Ac yna y gwisgws Custennyn gyntaf coron y
deyrnas. ac y rodet yn wreic bwys ydaw merch
y vn o deledogeon ruvein a vagassei kuhelin arch+
escop. Ac o·honei y cauas tri meib. nyt amgen.
Constans. Emreis. ac Vthyr. Ar constans hwnnw.
a vagwyd ymanachloc amphimbalus y|nghaer
wynt. Ar meibion ereill a rodet ar kuhelin arch+
escop ar vaeth. A gwedy gwledychu o custennyn
deudeng mlyned yn hedwch tagnavedus. y doeth