Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 52r

Brut y Brenhinoedd

52r

nyeit gan ev llad a llosgi heb drugared. A gwedy
gwelet o|r brytannyeit na alleint ymderbynnyeit
ac ev gelynnyon. Anvon a|orugant y venegi ev an+
ghyfnerth ac ev govid ac ev girat gwyn hyt ar
Gitius amherawdyr ruvein. y ervyneid idaw yr
duw ac yr y eneit y nerth ef vn weith y wrthlat
ev gelynnyon oc ev tervynev. A gwedy menegi
hynny y ssened ruvein yn llwyr. Eu nackav ar gw+
byl a|wnaethpwyt ydunt. ac ymwrthot ac ynys
brydeyn a|y thernget yn dragywydawl. o hynny al+
lan. A gwedy menegi yr bryttannyeit attep gwyr 
ruvein. dygyn oed y duw gwarandaw ar ev girat
gwyn. ry ballu ydunt ev holl nerthoed. ac ev hym+
diret. ac ev hadaw yn eneit·vadeu yw gelynnyon.
Ac yna yn ev kynhor y caussant anvon kuhelin
archescop llundein hyt yn llydaw y geisiaw nerth
y gan Alltwr brenhyn llydaw pedweryd brenhyn 
oed hwnnw gwedy kynan meiriadauc. A gwedy y|dy+
uot ef hyt yn llydaw llawen uu yr brenhin wrthaw
a|y wahaud yn enrydedus a oruc tra|vynney drigav
yn|y wlat honno. A phan welas kuhelin amser y
wneithur y neges. ef a ymgystlynavd kerrennyt
ar brenhyn yn gyntaf. A menegi na buassei dele+
dauc o ynys brydeyn yn|y gwledychu hi. yr pan
dathoed maxen a chynan meiriadauc gyntaf y
llydaw. sef achaus oed hynny; am gymryt o vax+
en holl deledogyon ynys brydein y·gyt ac ef.
ac adaw yr ynys yn wac. onyt o alltudyon.
a gwenidogion a dynnyon diwala heb wybot dim.