Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 46v

Brut y Brenhinoedd

46v

o coel hynny; kynvllaw llu a oruc a dyuot yn|y
erbyn. A gwedy dyuot y|deu lu wyneb yn wyneb
y doeth tagnavetwyr y·ryngthunt. ac yn diannot
y|tagnevedwyt wynt. Ac ym phen yr wythnos ar
mis gwedyr dagneved y bu varw coel. Sef oed hyn+
ny. naw mlyned a|thry chant o oet crist.
A gwedy marw coel y kymyrth Constans elen
verch coel yn wreic bwys idaw a choron y|dyr+
nas genthi. Ay phryd. hi ny welssit y chyffelyb
eryoed. a honno a elwyd gwedy hynny elen luhy+
davc. A mab a oed ydi o constans yr hwn a el+
wyd custennyn vab constans. A gwedy gwledy+
chu o constans vn vlwydyn ar|dec yn hedwch
tagnevedus y bu varw ef. ac y clatpwyt y gorf
yng|kaer efrawc.cccxx. o oet crist.
A gwedy marw constans y kymyrth Custen+
nyn llywodraeth ynys brydein yn eidiaw
e|hvn. Ac yn yr amser hwnnw yd oed maxen greu+
lon yn amherawdyr yn ruvein. ac yn diva dy+
ledogion o|r ynys oll. gan ev llad ac ev crogi ac
ev hanreithiaw. ac ymgyuoethogi e|hvn oc ev
sswllt. Ac yn rodi y anyledogion ev tir ac ev dae+
ar ac ev kyuoethev. ac yn dehol y bonhedigion
y ynyssoed ereill. A gwedy dyuot lluossogrwyd
o·nadunt hyt yn ynys brydeyn y gwynav wrth
custennyn vab constans. canys ef a delehey vod
yn amherawdyr yn ruvein o dadwys gan iawn.
Gorthrwm y kymyrth arnaw ry draethu y ge+
nedyl a|y gereynt mor waradwydus a|hynny.