Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 45v

Brut y Brenhinoedd

45v

yn llundein lle yd oed yn yr amser hwnnw yn gwne+
ythur gwylua yr tatdolyon dwyweu. A gwedy mene+
gi yr pagan creulon hynny. ymadaw a oruc ac aberthu
a chyrchu y bryttanyeit. ac ymlad yn wychyr creulon
ac wynt. Ac yna y bu aerua vaur o bop tu. Ac o|r
diwed gwasgaru gwyr ruvein a fo. ac ev hymlit a
oruc y|bryttanyeit; a llad llawer o vilioed onadunt.
Ac yna y llas alectus ev brenhyn. Sef a oruc lellius
gallus kedymdeith y alectus. cahu pyrth dinas llun+
dein arnadunt. a cheisiaw ym·gadw y|mevn. Sef a
wnaeth asclepiodotus ar bryttanyeit amgilchynv y gaer
ar dinas. Ac anvon ar holl tywyssogion ynys bry+
deyn y venegy ev bod wynt yn eisted wrth caer llun+
deyn. Ac erchi y bawb onadunt dyvot yn gyttuhvn
yn borth ydunt. Ac yr dyvyn hwnnw y doeth y deheu+
wyr. ar gwyndyt. a gwyr deivyr a|bryneich. a gwyr yr
alban. A gwedy ev dyvot ygyt ymron y gaer. kyrchu
a oruc paub y gaer herwyd y wrhydri. a briwaw yr
mvroed a mynet y mevn. a|thrwydunt a throstunt.
heb kymryt kystlwn gan wyr ruvein onyd ev llad
yn olofrud. A phan welas gwyr ruvein hynny. dyuot
a orugant hyt ger bron y brenhin. ac erchi nawd y
ev heneidiev. ac ev gillwng yn vew yw gwlat. A|thra
yttoed y brenhin yn kymryt kynghor am hynny.
y kyuodes gwyr gwyned a bydinaw ar|lan nant.
a chyrchu gwyr ruvein. a llad ev pennev heb adaw
yr vn yn vew onadunt. Ac o|r achos honno y gelwir
y nant hwnnw yng|kymraec; nant gallgwn yr
hynny hyt hediw. Ac yn saesnec galles broc. nev.  lehioc