Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 45r

Brut y Brenhinoedd

45r

idaw y gymryt yn vrenhin arnadunt. o gallei ef
ev hamdiffyn rac gormes ystrawn genedyloed. A
gwedy gwybot o Caraun attep y bryttanyeit. ef a|doeth
a llu mawr ganthaw. Ac yn|y erbyn yntev y doeth
bassian a|y lu yntev o wyr ruvein ar fichtieit. ac ymlad
yn llidiawc creulon o|bop parth. ac yn yr ymlad hvn+
nw y trossassant y fichtieit gyd eharaun yn erbyn
bassian. ac ymlat ac ef a orugant a|y lad. A ffo o|wyr
ruveyn heb wybot pa|le. can ny wydynt pwy a|oed yn
ev herbyn. na phwy nyd oed.
A gwedy caffael o Caraun y vwdygoliaeth drwy
vrat y fichtieit ef a|rodes ydunt yr alban. ac yno
y|maent yr hynny hyt hediw. A gwedy menegy
hynny y senedwyr ruvein. ry lad o caraun bassian.
ac ymdyrchauel e|hvn yn vrenhin. ac attal teyrn+
get gwyr ruvein. gorthrwm y gymerassant ar+
nadunt hynny. Ac anvon Alectus senedwr a|their
lleng o wyr ymlat y·gyt ac ef hyt yn ynys bry+
deyn. Ac yn ev herbyn wyntev y doeth Caraun a|y lu
ac ymlat ac wynt yn wychyr creulon; a llad llawer
o boptu. a|rac amlet gwyr ruvein. nyd oed havd
yr bryttannyeit ymherbynnyeit ac wynt. Ac yn yr
ymlad hwnnw y llas caraun a gwneithur dirvavr
dymhestyl ar bryttannyeit. gan ev llad ac ev diva
heb drugared.
A gwedy ymdyrchauel o Alectus yn vrenhyn drwy
y greulonder. gorthrwm oed gan y bryttannyeit
hynny. A dethol a orugant Asclepiodotus iarll kernyw
yn vrenhin arnadunt. A mynet am ben alectus hyt