Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 34v

Brut y Brenhinoedd

34v

ydaw y holl colledeu ry wnathoed idav erioed. a
bot yn wr fydlaun idaw o hynny allan. A hynny
a gymyrth y brenhin y|ganthau. a|y dillwng ymeith.
Ac velly y guaravt* llud y teir gormes o ynys bry+
dein. Ac o hynny hyt diwed y oes y gwledichaud
yn hedwch dagnauedus. A gwedy y varw y kudi+
wyt y gorf y|nghaer llundein ger llau y porth
a elwir yng kymraec o|y enw ef e hvn. yn borth llud.
Ac yn saesnec ludysgate. Sef oed hynny gwe+
dy diliw. dwy vil. a deu·cant. a phedeir blyned.
A deu vab hagen a oed idaw. nyd amgen avay+
rwy. a theneuan. ac wrth nad yttoedynt yn
oedran y lywiav y deyrnas. y detholet caswallavn
vab beli ev hewythyr wynt braud ev tad yn vre+
nhin ar ynys brydein.
A gwedy urdaw Caswallaun yn vrenhin. ef a ym+
rodes y|warder yn gymeint; hyt nat oed neb yn
anvodlawn idav. a charu gwirioned a chyfyaunder
a wnay. Ac yr y|uot ef yn vrenhin. ny vynnei ef
didymmv y neiynt o|r ynys. namyn rodi rann
vaur ydunt. Sef y rodes y auarwy y nei. llundein
ac yarllaeth keint. Ac a rodes y theneuan y nei
y llall yarllaeth kernyw. Ac ynteu e|hun yn vren+
hin ar gwbyl. Ac yn yr amser hvnnv yd oed vlkessar
amheraudyr Ruuein yn goresgyn yr ynyssoed a
oed yn ev kylch. A gwedy goresgyn freinc o·ho+
nav. ef a doeth hyt yn Rwiten. a gwelet ynys a
wnaeth kyuerbyn ac ef. y|tu ar gorllewin. A go+
vyn pa dir a welei y am y mor ac ef. Ac y|dywat