Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 34r

Brut y Brenhinoedd

34r

yn ev kylch yn diogel. Ac yn|y lle cadarnaf ar di+
ogelaf o|r ynys. peri ev cladu yn dyfynder y dayar
mevn kist vayn. yn erryri. lle gelwyt gwedy
hynny dinas emreis. Ac y peidws y diaspat ty+
mestlus o hynny allan. Ac odena llud a ber+
is arlwiaw gwled dir·vaur y meint. A gwe+
dy y bod yn barawt. gossot kerwyn yn llawn
o dwfyr oer ger y lau a oruc. Ac ef e|hvn yn|y
briaud berson yn|y gwyliaw. Ac val y byd velly
ef a glyw llawer o amrauaylion gerdeu yn|y
gymell y gysgu. sef a oruc ynteu rac goruot
o gysgu arnav mynet yr dwfyr oer yn vynych.
Ac o|r diwed ef a welei gwr diruaur y veint ac
arueu trum cadarn ymdanaw yn dyuot y me+
vn. a chawell ganthav. ac y megys y gnotaassei
gynt yn dodi yr holl darmerth. o vwyt a llynn
yn|y cawell. ac yn kychwyn ymeith ac ef. A phan
weles llud hynny. bwrw neit yn|y ol a oruc. ac
yn wrd erchi idav arhos. a dywedud wrthav val
hynn. kyt gwnelut ym golledev kyn no hyn;
nyt ei bellach ony varn dy vilwriaeth dy vot
yn drech no mi. Ac yntev a|y arhoes ef attav a
chreulon dyrnodieu a newidiassant. yny oed
y tan yn ehedec o|r cledyfeu ac o|r arueu ereill.
Ac o|r diwed ymavel yll deu. yn greulon. ac yn
gadarn. ac y damchweynws yr brenhin bwrw
yr ormesswr y·ryngthav a|r daear. A gwedy gor+
uot arnav o grym ac angerd; erchi y naud
a oruc idav. trwy gedernyt yr brenhyn ennill