Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 32v

Brut y Brenhinoedd

32v

ev nerth. ar gwraget eu beichogieu. ar meibi+
on. ar merchet ev synhwyreu. ar aniveilieit.
ar gwyd. a adawei yn diffrwith. Tryded gor+
mes oed yr meynt vei y darmerth ar arlwy
a barattoyt yn llyssoed y brenhinet. kyd bei
arlwy vlwydyn. o vwyt a|diawt. ny cheffit
dim byth o·honaw namen a dreulit yn yr
vn nos kyntaf. Ac eissiwys kyhoed oed
ac amlwc yr ormes gyntaf. y dwy ormes
ereill; nyd oed a wyppei pa ystyr a oed ydunt.
Ac urth hynny goueilieint a phryder a gym+
yrth llud yndaw. am na wydiat gwaret
y gormessoed hynny o|r ynys. A medyliaw
a oruc vynet y ymwelet a llyuelis y vraud y
ymgyghor ac ef. A gwedy gwybot o lyuelis dy+
uodiat y vraud llawen vu ganthaw. a dyuot
yn|y erbyn a|oruc a niuer mawr y·gyt ac ef yn
enrydedus. a myned y dwylau mynwgyl idaw.
A gwedy menegi o lud ystyr y neges yw vraut.
ynteu a beris gwneithur corn hir mal y|gell+
ynt ymdidan drwy yr corn. val na chaffei y
coranieit dim o|r gwynt y|am yr ymadrawd.
a rac gwybot eu hynny. A phan oed barawd
y corn. ymdidan a wnaethant. ac ny chaffei
yr vn y gan y gilid onyd attep gochwerw.
Ac yna adnabot o lyuelis yr vynet kythreu+
liaeth yn|y corn. a pheri y olchi a gwin a oruc.
ac o rinwed y gwin mynet y kythreul o|r co+
rn. Ac yna y caussant ev hymadrawd yn iawn.