Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 31r

Brut y Brenhinoedd

31r

mlyned. ac yna y bu varw.mdccccxcvij. o vlw+
nyded gwedy llif noe.
A gwedy meiryawn y doeth Bleidud y vab yn
vrenhin. a hwnnw a wledychaud teir blynet
ar ynys brydein. ac yna y bu varw. dwy vil o
vlwynyded gwedy diliw.
A gwedy bleidud y doeth Caph y vab ynteu
yn vrenhin. ac a wledychaud deng mlyned
ar|ugeint. ac yna y bu varw.ijmil xxx. gwedy diliw.
A gwedy caph y doeth Ewein vab caph yn vren+
hin. ac ny wledychaud ef onyd teir blyned.
ac yna y bu varw.ijmil xxxiij. gwedy diliw.
A gwedy ewein y doeth Seissill y vab ynteu
yn vrehyn*. A hwnnw a wledychaud. wyth
mlyned. ac yna y bu varw.ijmil xli.
A gwedy seissill y doeth Blegywryt yn vren+
hin. ac ny bu eryoed kantor kystal ac
ef o geluydyt music. na chwareyd kystal
ac ef o hudawl. Ac am hynny y gelwyd ef
duw y gwaraeu. A hwnnw a wledychaud ar
ynys brydein. wyth mlynet ar|ugeint. ac yna
y bu varw.ijmil.lxix. gwedy diliw.
A gwedy blegywryd y doeth Arthuael y vraut
yn vrenhin. A hwnnw a wledychaud seith
mlyned ar|ugeint. Ac yna y bu varw. sef oed
hynny.ijmil.lxxxviij. o vlwynyded gwedy diliw.
A gwedy arthuael y doeth Eidol vab arthua+
el yn vrenhin. Ac ef a wledychaud deudeng
mlyned. Ac yna y bu varw.ijmil.c. gwedy diliw.