Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 20v

Brut y Brenhinoedd

20v

y erbyn ynteu y doeth cuneda a|y lu. Ac yna y|bu
ymlad girad creulawn. ar gwyr goreu a ssyrth+
iassant yn gyntaf. ac y bu dir y vargan ffo
a|y wasgaredic llu. gan eu hymlid o guneda
a|y lu o wlat i wlat. A gwedy fo o vargan yny
doeth yr maes maur y|nghemre. y bu well gan+
thaw y varw yn|gwryd gwyr. nogyd mynet i|r
mor y ymuodi. canys nad oed le y fo pellach
hynny. Ac yna ymchwelud a oruc a rodi cat
ar vaes. ac yna y|bu kyffranc kalet. ac aerua
vaur o|boptu. ac yn|y kyffranc hwnnw y llas
margan. Ac yr hynny hyt hedyw y gelwir y lle
hwnnw maes margan. ac yno y cladpwyt ef
yn lle mae manachloc margan yr aurhonn.
Sef oed hynny. mil. a hanner. a phym mlyned
gwedy diliw.
Ac yna y kymyrth Cuneda yr ynys yn eidaw
e|hun. ac a|y gwledychawd teir blyned ar
dec ar|ugeint. Ac yn yr amser hwnnw yd oed
ysaias ac osee yn prophwidi yn gwlad garus+
salem. Ac yd adeilwyt Ruueyn y gan y deu vro+
der Remus a Romulus.
A gwedy cuneda y kymyrth Riwallawn llywo+
draeth yr ynys y vab ynteu. ac a|e gwledy+
chawt deudeng mlyned yn hedwch dagnauedus.
Ac yn|y amser ef y doeth glaw gwaet teir·nos
a thri·dieu. a ryw bryued val etnot trwy yr glaw
hwnnw. a ryw vall gyt a hynny. ac a ladassant
llauwer o dynyon. Ac yna y bu varw Riwallawn