Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 20r

Brut y Brenhinoedd

20r

pymp mlyned yn hedwch dagneuedus. ac yn
y chwechet vlwydyn y kyuodes y deu neint
meibion y chwioryd yn weissyon ieueing 
clotuawr. nyt amgen margan uab maglaun
tywyssauc yr alban. a chuneda vab henwyn
tywyssauc kernyw. a chynullaw llu attadunt
a ryuelu ar Cordeilla. a gwedy mynych kyf+
rangheu rygthunt. y goresgynassant wy
yr ynys. ac y|dalyassant hittheu ac y dodassant
y|ngharchar. A gwedy medyliaw o·honey am y
hen deilyngdawd ry gollassei. ac nat oed obeith
idi ymatkyuot o|hynny. o diruawr dolur hynny
y gwnaeth hy hun y lleith. nyt amgen nogyd
y brathu hy hun a chillell adan y bronn yny gol+
las y heneid. ac yna y barnwyd mae dybrytta ag+
heu y|dyn y llad e|hun. Sef oed hynny. Mil. a
hanner o vlwynyded gwedy diliw.
Ac yna y kymyrth. Cuneda a margan ac y
rannassant yr ynys y rynthunt. ac y|doeth
vargan o|r parth draw y humyr ar goglet adan
y|theruynev. Ac y guneda o|r parth yma lloegyr a
chemre a chernyw canys odyno yr hanoed. A gwe+
dy eu bod velly yn hedwch pedeir blyned y doeth
teruysc·wyr drwc ryngthunt. a dywedud wrth
vargan bot yn gywilid ydaw kynnal y dagnef*+
ned a|y gevynderw. ac yntev yn vab yr verch hy+
naf y lyr. ac yn lleiaf y ran o|r kyuoyth. A gwedy
y lenwi ef o lid y geirieu hynny. kynullaw llu
a oruc a ryuelu ar guneda y geuynderw. Ac yn