Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 16r

Brut y Brenhinoedd

16r

rydegauc. ac yna yd|a y elynion yn|y erbyn. ac
y llvniethir pawb yn|y le yn|y gylch ef. A llu y
elynion a furfheir ar lvn taryan. yna yd ym+
ledir oc eu taleu ac eu hystlysseu. ac yna y
llithyr y brenhin gwynn bonhedic yr awel. O+
dena y nytha kyw yr erir yn goruchelder krei+
geu holl ynys brydein. ny digwid yn ieuang. ny
daw ynteu ar heneint. yna gogonyanus fynniant
ny odef amreint na sarhaet idaw. a gwedy y|tag+
nauetter y dyrnas y digwyd.
Ac yn|yr amser hwnnw yd oed capis siluius yn vren+
hin yn yr eidial. ac aggeus ac amos a hieu a ioel a
zacharaas yn broffwydi yn yr israel. a selyf ap dafydd.
yn gaerussalem. ac yna y|teruynawd buchet Rvn
sef oed hynny gwedy diliw.Moccccxv. mlyned.
A gwedy Run y doeth Bleidud y uab ynteu
ac y bu yn vrenhin vgeint mlyned. A hwn+
nw a addeilws caer vadon ac a oruc yndi yr en+
neint twymyn yr medegynniaeth ac ardymhyr
yr rei marwaul. ar gweithret hwnnw a aberthws
ef yr dwywes a elwit minerua. Ac adan yr enneint
hwnnw y gyssodes ef tan andiffodedic byth nac
yn wreichion nac yn lludu. namyn pan dechreuo
diffodi yna y|dechreu y enni o newyd yn bellenev
kerric tanvydaul. Ac yn yr amser hwnnw y|gwe+
diws helias broffwid hyt na bei law yn gwlad
gaerussalem. ac y bu hep dyuot glaw chwe|mis
a|their blyned ar vn tu. o dial enwired ar y bobil.
Ac yd|aeth pawb y|dorwestu ac y prosessio ac y|we+