Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 143r

Brenhinoedd y Saeson

143r

Ac yn yr amser hwnnw y doeth kedymeith+
yon Oweyn y Dyuet y yspeiliaw ac y rwymaw
y dynneon ac yn ev dwyn ganthunt hyt y
llongheu a doethassei gan Owein o Jwerdon
kyn no hynny. ac yn trigaw velly yn ymylev
y wlat ac yn gwneythur gwaethaf ac y gel+
lynt. O·dena wynt a alwassant attadunt
ynvydeon o keredigeon y amylhau ev rif.
ac a doethant nos am ben tref ac a ladassant
a gaussant wyaf. Ac ereill a yspeiliassant ereill
a werthassant. ereill a dugant yw llongheu.
A llosgi y dref a llad yr anyveilieit ar ny al+
lassant y dwyn ganthunt hyt yng|keredigi+
on. ac yno y trigassant heb ganeat Cadogon
na|r hwn y brenhin. Odyno wynt a doethant
y warchadw ford; ford y deuwei primas o flan+
drys Willam braban oed y henw a|y lad a orugant
ydaw. A gwedy klywet o Cadogon hynny a Joruerth
y vraut; kyrchu llys y brenhin a orugant y ym+
digerydu urthaw. Ac yno y doeth manac yr bren+
hyn ry lad o gedymeithion Owein vab Cadogon
William de braban. A gwedy menegi hynny ydav
ymliw a oruc y brenhin a Cadogon yn chwerw.
am na allei lludias Oweyn na y gedymeithi+
on yw gyuoeth. A gorchymyn y Cadogon nat
elei o|r llys. a dywedut y gwarchatwei ef y gy+
uoeth rac Oweyn pryt na|s gallei ef. Ac yno
y trigawd Cadogon yn llys y brenhin yn di+
garchar. a phedeir ar|ugeint ydaw bevnyd