Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 12r

Brut y Brenhinoedd

12r

y kymyrth locrinus essillt yn wreic gwely idaw.
A gwedy gwybot o corineus hynny llidiaw a oruc.
am ry adaw o|locrinus kyn no hynny kymryt
gwendoleu y verch yn wreic  bwys idaw. ac an+
von attaw a oruc ac erchi idaw y|dillwng ymeith
hi o|r wlat. a gwedy na|s dillynghei kynullaw llu
a oruc corineus y dyuot am ben locrinus ac y gymell
y dehol o|r wlat. A gwedy gwibot o|locrinus hynny. peri a
oruc gwneithur daear dy yn lle dirgeledic a
dodi essyllt yndi heb wybot y neb. ac yna anvon
ar corineus y venegi ry daruot idaw dehol essillt
o|r ynys. a gyssot oet dyd cariat ryngthunt. A
gwedy ev dyuot y oet y dyd y doeth corineus a·dan
droi bwyall deu·vinyawc yn|y law a dywedud yn
llidiawc vrthaw. a|y tydy vabyn drythyll. am tre+
mygei. vi am merch gwedy genifer gweli a geueis
yn ennill kyuoeth ytti ac y|th tat kyn no thi.
ac yn mynassu y gyrchu ar vwyall. ac yna y|daeth
kedymeithion ryngthunt ac eu tagnefuedu*. ac
yna y kymyrth locrinus gwendoleu verch corineus.
yn wreic bwys ydaw ac yn vrenhines. ac a gauas
mab ohoney a madauc oed y henw. Ac yn yr vn
amser hwnnw y ganet merch y essillt ac y dodet
henw arney hafren. Ac val hynny y bu locrinus
yn hir. ac yn rith mynet y aberthu yr dwyweu
iday ef ar essill pan elei. ac a drigei yno a|y dwy
nos a|y teir heb wybot dim y wrthaw yny delei
e|hvn drachefyn. A|gwedy marw corineus y gwrth+
ladawt ef gwendoleu y wrthaw. ac y dyrchauaud