Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 129r

Brenhinoedd y Saeson

129r

llynghes o iwerdon yn dyheubarth. Ac yd atwna+
eth edward vrenhin deneguldon yr hwn a wna+
thoed edelred y dat gynt. Anno domini.mlij. y bu
varw emme vrenhines ac y clathpwit y eglwis
seyn Swithon yng|kaer wint. Anno domini.mliij.
ar dyd gwyl vchel val ydoed Godwin iarll yn eiste
ar neill llaw yr brenhin wrth y uuyt yn hodiham.
y doeth y bwtiler a ffioleit o lyn ydunt. ac yn hyn+
ny pallu o|r neill troet ydav a|y achubeit o|r llall;
a gowenv a oruc Godwin. a govyn o|r brenhin pa+
ham y chwardei. Mor ehegyr yd achubawt y neill
braut y llall heb ef. Rofi a duw heb y brenhin
velly y gwnay vym|braut ymmi pey gedessyt
yn vew. Sef a wnaeth Godwin etivaru a dywat.
a|thorri tameit bychan o vara. a gwediaw ar duw
boet y angheu ef bei hynny o vara o doeth anghev
yw vraut o|e y weithret ef. Ac yr aur y dodes y
bara yn|y enev; ef a aeth kythreul yndaw. ac ny
chavas arvot o|r byt; onyt ymchweilit y lygeit
a thagu. A gwedy gwelet o|r brenhin hynny; ny
chyffroas arnaw dim. namyn erchi y dynnv
o ger y draet y a·dan y bwrt ymeith. A hynny a
wneithpwyt ac y ducpwyt ef hyt yng|kaer wint
ac yno yn yr eglwys vaur y clathpwyt yn en+
rydedus. Ac y rodes Githa y wreic y eglwys caer
wint dwy lys nyt amgen Bleodonam a crawcum+
ham a llawer o rodeon ereill. Ac y eglwissev ereill
hi a rodes rodeon llawer. Ac y harald y vab y ro+
det y gyvoeth canys oed braut yr vrenhines.