Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 126v

Brenhinoedd y Saeson

126v

ac y clatpwyt ef yn yr escopte yng|kaer wint.
Ac y rodes emme y vam dros y eneit yr escop+
ty; llawer o wisgoed maur·weirthiauc. ac eur
ac areant a mein gwyrth·vaur. a dwy lys nyt
amgen. west·wode a piper·mvnster. A gwedy
marw hardechnout y rodet gwarchatwediga+
eth y vrenhiniaeth y Gotwin yny detholit
brenhin arall o gyt·ssynnedigiaeth y vrenhi+
nes ar dyrnas. Ac yn yr amser hwnnw yd
oed edward vab eluret yn ymdivat yn nor+
mandi; canys marw uuassei y genedyl oll
eithyr wiliam vap y duc robert a oed yn
was ieuanc y·gyt a brenhin freinc. A gwe+
dy gwelet pob peth gwedy ry ballu ydaw
bwrw y eneit yn antur a oruc a chyrchu lloe+
gyr. a dyvot hyt yn llvndein lle yd oed Got+
win yn trigaw yn wastat. A chael ryt o·ho+
naw boregweith y dyuot yr ystauell lle yr oed
Gotwin yn neffro. A ssyrthiaw yn groes ger bron
y gwely. ac wylaw gan y wediaw. Ac y kyuodes
Gotwin yn|y eiste a govin ydaw pwy wyt ti dyr+
cha dy wyneb a gat vi edrech pwy wyt. Arglwyd
heb ef nebvn tlaut wyf a gwas ytt. ac ym mebit
ym alltudwyd yn wirion. ac yn dy|wediaw dith+
ev arglwyd am nawd ym eneit. A gwedy y welet
yn tosturiaw mor dygyn a hynny; trugarhav
a oruc wrthaw a|thynghu y wyneb lucus na by+
dei eneit vadev. kyvot weitheon heb ef ac adef
pwy wyt. Arglwyd heb ef can gefeis gras y|th deu