Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 123v

Brenhinoedd y Saeson

123v

A gwedy dyrchauel Chnout yn vrenhin
ar gwbyl o loegyr. ef a orchmynnws ar
berygyl eneit ac aylodeu na bei neb o wyr
denmarc a wnelei argywed yr saesson. Na
neb o|r saesson ydunt wyntheu; namyn bot
yn vn genedyl. ac yn gwassaneithu kyvreithi+
eu aeluryt vrenhin. A gwedy gwastattau y
vrenhiniaeth o·honaw; anvon a oruc hyt ar
Richart duc normandi. y ervynneit emma
yn wreicka ydaw. yr honn a uuassei wreic
briawt gynt y edelredus. a|y phlant hi yn elyn+
neon ydaw. A gwedy y rodi ydaw mab a gafas
o·honei hardechnout oed y enw. Anno domini
mxix.y llas meuric vab arthuael. Anno domini.
mxx.y doeth nebvn yscot kelwydauc a dy+
wedut y vot yn vab y moredud vab Oweyn
a Rein oed y henw. ac y kymyrth gwyr y de+
heu ef yn bennaf arnadunt. Ac y damu+
nws yntev gwyned yn erbyn llywelyn vab
seissyll y brenhin clotuorussaf a wydit o|r
mor pwy gilid. ac yn|y oes ef ny bu eissieu
da yn|y gyfoeth. na neb gouudus nac vn
dref wac na diffeith. A gwedy dyuot y lluo+
ed hyt yn aber gweili; y kyrchws Rein yr ym+
lad yn valch bocsachus gan annoc y wyr. Ac
yn hynny y goruuwyt arnaw ef. ac y ffoas
yn llwynogeid ffyrnic. ac y llas y wyr yn olo+
frud. ac yd anreithwyt yr holl wlat. Gwedy
hynny y doeth Eilaf y dir kymmre a|thorri