Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 119r

Brenhinoedd y Saeson

119r

wyn. ac y bu varw meuric vab catvan. ac y
daeth meneich kyntaf y vanachloc caer wynt.
Anno.ixclxij. y bu varw Ryderch escop. Ac y
daeth meneich kyntaf y vanachloc yr hyde.
Anno.ixclxiijj. y bu varw Catwallawn vab
Oweyn. Anno.ixclxv. y diffeithwyt kyuoetheu
meibion idwal y gan y saesson. Anno.ixclxvi.
y llas Rodri vab Jdwal. ac y diffeithwyt aberfrav
gwedy hynny. Anno.ixclxvij. y dalpwyt Jeuaf vab
Jdwal y gan Jago y vraut ac y carcharwyt ef a ge+
vynnev. Anno.ixclxviij. y diffeithwyt Gwhyr y gan
Eynion vab Oweyn. Anno.ixclxix. y diffeithwyt penn
mon y gan y paganyeit a mactus vab harald. canys
canneat a gavas gwyr denmarc ar drigaw yn yr
ynys honn tra vynnynt y gan edgar vrenhin
lloegyr. Ac yna y doethant kyn amlet hyt nat
oed na dinas na thref arall dros wyneb lloegyr
na bythynt amlach wynt no|r saesson. Ac yna
ymrodi y yvet a orugant ac y odineb hyt na
ellit reol arnadunt. ac yny uu orthrwm gan y
brenhyn ar dyrnas wynt. ac na alleynt ev gwrth+
lad rac ev hamlet. Ac yna y dodet hoyleon yn|y
ffiolev yn dogyn diawt gwr; ac nat yfve neb
mwy no hynny; onyt wrth vessur; ac o hynny
arafhau peth a orugant. Ac y edgar y bu deu vab
vn o|y wreic briawt a elwyt edward. ac arall
o wreic adylwold jarll a dugassei y ar y gwr hyt
yn fforest o warwelle rac y thecket. ar mab hvn+
nw a elwit edelret. Pan oed oet Jessu.ixclxx.