Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 118r

Brenhinoedd y Saeson

118r

yr haf tessauc. ac y llas Gugaun vab gu+
ryat.
Ac yn yr vn vlwydyn honno y gwnaeth+
pwyt Edwinus vab edmund yn vren+
hin. A hwnnw a dremygws holl annwydeu
edredus y ewithyr. Ac a gymyrth ryvic a
balchter yndaw heb didorbot nac am duw
nac am dyn dym. y dyd y gwnaethpwyt
ef yn vrenhin; ef a duc gwreic briaut y ar
y gwr priaut y dreis. am y phryt. a|y gwr yn
gar ydaw. Ac yno ymrodi y odineb ac y ry+
uelu ac eglwys duw yny uu agos ydaw a
divwynaw y dyrnas yn llwyr. Anno.ixclviij.
y diffeithws Oweyn gorynyd. Anno.ixclix.
y bu varw edwinus brenhin lloegyr. ac y clad+
pwyt ef yng|kaer wynt. Ac y gwledychaud
meibion Jdwal drwy nerth diruaur mis maurth.
Ac y diffeithwyt caer kybi a lleyn y gan veibi+
on abloic.
Ac yn yr vn vlwydyn honno y gwnaethpwyt
Edgar vab edmund braut y edwin yn vren+
hin ar loegyr. a hwnnw a ymedewys a holl drwc
deuodeu y vraut. ac a uu wr da ssanteid. yn|y
oes ef y kigleu seint Dunstan egylion nef
yn canv; ac yn dywedut. hedwch a vyd ac am+
mylder o frwitheu yn yr ynys honn. tra vo
bew seint Donstan. ac y gwledycho edgar.
Ac nyt edewys edgar dros wyneb y deyrnas na
manachloc nac eglwys ny wellhaei arnaw; a|y