Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 111v

Brenhinoedd y Saeson

111v

gwrthnebu y ruthyr y elyneon. a hwnnw a elwit
yn glaud offa yr hynny hyt hedyw.Dcclxxxxv.
yd|aeth paganyeit gyntaf y iwerdon ac y diffeith+
wyt rechreyn.Dcclxxxxvi. y bu varw offa bren+
hin mers. Ac y bu varw moredud brenhin dy+
vet. Ac y bu ymlad rudelan.Dcclxxxxviij. y
llass caradauc brenhin gwyned y gan y saesson.
Anno domini.dccc. y gwnaethbwyt Egbirtus
yn vrenhin yn westssex; gwedy brichrici
a dywetpwyt uchot. Ac yna y kynullws ef lla+
wer o|r gweission ieueing dewraf a chryfaf
o|r a gafas yn|y gyuoeth; ac a|y gwnaeth yn
varchogeon vrdoleon. Ac a dysgws ydunt
marchogaeth ac ymdwyn arueu val y dys+
gassei yntev gynt yn ffreinc. ac aruer ona+
dunt ar hedwch; ual y bei vyvyr ganthunt ar
ryuel pan vei reit wrthunt.Dcccij. y gwnaeth+
pwyt kenwlfus yn vrenhin ym mers.Dccc.
vij.y bu varw arthen brenhin keredigyon.
ac y bu diffic ar yr heul.Dcccviij. y bu varw
Rein brenhin dyvet. a chadell powys.Dcccix.
y bu varw Eluod archescob gwyned.Dcccx. y
duws y lluat dyw nodolic. ac y llosgas mynyv.
Ac y bu varwolaeth yr ysgrybyl drwy holl kym+
mry.Dcccxi. y bu varw Oweyn vab moredud.
Ac y llosgas Degannwy gan dan mellt.Dccc.
xij.y bu ymlad y·rwng howel a chynan. ac y
goruu howel.Dcccxv. y bu y taranev maur.
ac y gwnaeth llawer o losgev. Ac y bu varw