Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 10v

Brut y Brenhinoedd

10v

gi hynny y|brutus ny deuei yn|y kyuyl yny daruu
ydaw aberthu. ac yna kyweiriaw y lu a oruc a dy+
uot y ymlad ar kewri. ac yna y llas y kewri oll di+
eithyr vn gocmaegoc oed y henw. a deudec ku+
vyd oed yn|y hyt. a phedwar yn|y led. a chryfaf
dyn o|r byd oed hwnnw. ac am hynny y peris
brutus y adel yn vew y ymdrechu a chorineus. A
gwedy dyuot corineus o rodiaw yr ynys. y me+
negys brutus idaw eu kyfranc am y kewri. a bod+
lawn vu corineus y hynny. ac yna y|ducpwyt
y cawr mawr y ymdrechu a chorineus hyt ar ben
kreic uchel gwastat ar lan y mor. Ac yn|y kyhwrd
kyntaf y cawr a|y cafuas* ef gauel ardwrn adan
y deu vreich a|y wasgu yny dorres teir assen yn+
daw. vn o|r ystlys deheu. a dwy o|r ystlys assu.
ac yna y dyrchauel a|y daraw ar dal y lin yr
llawr. Ac yna kyuodi yn llym a oruc corineus
ac yn llidiawc. ac ymauel yn|y cawr a|y was+
gu vrthaw yny laysawd y holl gauayleu. ac
yna y dyrchauel ar y ysgwyd a chyrchu lan
y mor ac ef a oruc. ac y|ar carrec vchel y uw+
rw dros ysgithir kerric yny uu yn dryllieu
kyn dyuot yr mor. ac yny goches tonneu
yr mor o|y waed. ac yr hynny hyt hediw y
gelwir y lle hwnnw llam y cawr. Sef oed
hynny. deu·cant mlyned a mil. gwedy dwfyr di+
liw y doyth brutus kyntaf yr ynys hon.
AC yna y mynnws brutus dilehu
yr henw a uuassei ar yr ynys kyn no hyn+