Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 108r

Brut y Brenhinoedd

108r

catwaladyr a phob kyffryw beth bydawl; a hynny
o gareat duw. Ac yna yd aeth ef hyt yn ruvein;
val yd erchis yr anghel idaw. Sef oed hynny teir
blyned a phedwar vgeint. a chwechant o oet crist.
Ac yno y bu yn vew pymp mlyned. A llawen uu
y pab wrthaw; ac a|y cadarnhaws ef ym|plith y
seynt gleyneon. Ac yna y kleuychws ef o orth+
rwm heint; ac yn|y deudecvet dyd o vis racvir
y bu varw. ac yd|daeth y eneit y nef. Sef oed hynny
wyth mlyned a phetwar vgeint a chwechant o oet
crist.
A phan aeth catwaladyr y ruvein o lydaw; y
doeth Juor vab alan ac ynyr y nei a llyng+
hes ganthunt hyt yn ynys brydein y ryvelu ar
saesson; ac ny dygrynhoes ydunt dim. Canyt
adaussei ball a newyn dim haeach o|r brutany+
eit yn vew. ar rei hynny ar daroed ev dehol y ran
kamber o|r ynys. Ac ny elwyt wynt yn vryttan+
nyeit yna; namyn yn gymre. Ac o hynny al+
lan y goruc y saesson yn diveryauc; kynnal
tagneued ryngthunt ev hvneyn. A diwyll y ti+
roed goreu; ac adeiliat kestill. a chaeroed. a di+
nessyd. Ac val hynny y byriassant medyant
y bruttannyeit i|arnadunt; ac o hynny allann
y colles y kymry ev breint. ac y bu dir ydunt go+
def saesson yn bennaf arnadunt. Ar tywysso+
geon a uuant ar gymre gwedy hynny pob eilwers;
a orchmyneis ynnev y garadauc o lan garban.
vyng kyt·oesswr y oed hwnnw. Ac ydaw ef yd