Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 103r

Brut y Brenhinoedd

103r

ynys brydein gyt ac wynt; ny bu yr hynny hyt|he+
diw yno a allei gynydu breint na y gynal. Ac
am hynny drwc yw gennyfi auch bot mor wan
ac na ellwch ymdiala ac wynt. Pan daruu y
selyf tervynv ar y ymadraud; kywilydiaw a oruc
catwallawn a diolwch ydaw y dirionwch a|y enry+
ded. A dywedut vrthaw val hyn. Arglwyd heb ef
na vit ryved gennyt bot yn llesc y bobyl a edewit
yn ynys brydein; canyt edewyt yno vn gwr bon+
hedic namyn a doeth ymma gyt a maxen a chy+
nan meiriadauc. A phan aeth medeant yr ynys
yn llaw anyledogeon llesc diwibot; ny medrassant
na y llywyaw na y chynnal. namyn ymrodi y|or+
morder o vwyt a diawt. a forthmonnaeth a godi+
neb gwraged. a chynnal ryvic yndunt o hyder
ev mynws val y gwna pob milein. A gwneithur
val y dywat gildas; nyt amgen no chynnal y
pechodeu ym|plith y kynnedloed; a hynny a ystwg
byt oll o|e olwc. Sef yw hynny cassau gwirio+
ned a chynnal y kelwyd yr da. a chymryt da dros
drwc. Ac enrydedu enwired dros hygarwch. ac aruoll
diawl dros anghel da. ac urdaw brenhined creu+
lon a wneit o dryc ystriw. ac o bei vn gwr ffydlon
y wrthot; a theiru y vot yn vradwr. Ac ny myneint
dim y gan vedic yr holl wirioned; mwy noc y myn
vn milein kybyd. Ac am hynny arglwyd na vyt ry+
ved gennyt ti vot yn gas gan duw y genedyl tru+
an a wnei velly. a rodi o·honaw ystrawn gynedlo+
ed yn bennaf arnadunt y dial y pechodeu hynny.