Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 101v

Brut y Brenhinoedd

101v

fydlawn gwneithur brenhin onadunt ev hvnein.
wynt a ymgynullant y·gyt. ac oresgynnant kwbyl
o ynys brydein. oc ev twyll ac ev hystriw drwc. ac
am hynny arglwyd; oed iawnach ytt ev hystwng
nogyt ev kynnydu. Ac eres na daw cof ytt arglw+
yd a wnaethant a gorthyrn gorthenev; pan y het+
telhiis ef wynt yn rith wyr kywyr fydlawn crede+
dvn y ymlad gyt ac ef. A phan gaussant wyntev
gyntaf lle ac amser; wynt a dattodassant ev twyll
ac ev brat y dalu drwc dros da. Pan ladassant tywys+
sogeon ynys brydyn yn salysburi oc ev twyll; a
daly gortheyrn a dwyn y vrenhiniaeth y arnaw.
A gwedy hynny y gwnaethant brat emreis wle+
dic a|y lad a gwenwyn. A gwedy hynny y lladas+
sant vthyr bendragon a gwenwyn hevyt. A gwe+
dy hynny y torrassant ev fyd ac ev haruoll am
duhvnaw gyt a medrawt yn erbyn arthur. Ac
yn diwethaf oll y dugant gormwnt brenhin o|r
affric y oresgyn y ar geredic y gyuoeth ac yw de+
hol o·honei yn waradwidus. A gwedy tervynv
o breynt ar y amadrawd; yd anvones catwallawn
kennadev y venegi y etwyn nat yttoed yn|y gyng+
hor canheadu vn goron yn ynys brydein o·nyt
coron lvndein. Sef y dywat etwyn y gwnay ef
coron ydaw; bei drwc bei da gan gatwallaun.
Sef y dywat catwallawn y lladei yntev y ben
yadan y goron os gwisgei o vewn y tervynev
ynys brydein. Ac o hynny allan y kynydawt
tervysg ryngthunt vwy vwy; a chan mwyaf